|
||
|
|
||
|
||
|
Diweddariad gweithredu gaeaf | Siopleidr wedi'i arestio a'i gadw yn y ddalfa |
||
|
Helo {FIRST_NAME} Yn dilyn llygaid craff SCCH a oedd yn patrolio ardal Tescos, Llaneirwg - Gwelwyd a chadwyd dyn oedd yn cael ei geisio gan swyddogion, er gwaethaf ymgais i ffoi. Mae'r dyn 41 oed wedi cael ei gyhuddo o 6 throsedd siopladrad sydd wedi digwydd ar draws Llanrhymni a Llaneirwg. Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa ac mae cais am Orchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO) wedi'i weithredu. Defnyddir Gorchmynion CBO yn aml yn erbyn troseddwyr cyson, fel y rhai sy'n ymwneud â dwyn o siopau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac maent wedi'u cynllunio i atal unigolion rhag ymgymryd â gweithgaredd ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol pellach. Mae'r gorchmynion hyn yn cynnwys gofynion a gwaharddiadau rhag mynd i mewn i ardaloedd diffiniedig. Mae torri Gorchymyn CBO yn drosedd. Diolch am eich cymorth. Dim ond drwy gydweithio rhwng yr heddlu a'r cyhoedd y gallwn atal a chanfod troseddau. Oes angen i chi siarad â'r heddlu ond does dim angen ymateb brys arnoch chi? Gallwch wneud adroddiad ar-lein drwy ein gwefan https://www.south-wales.police.uk , anfon neges breifat atom drwy Sgwrs Fyw, neu ffonio 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. | ||
Reply to this message | ||
|
|






